Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Llun, 27 Tachwedd 2017
Amser:
14.01 -
16.44
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4355
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Neil Hamilton AC Vikki Howells AC Rhianon Passmore AC Adam Price AC |
Tystion: |
Naomi Alleyne, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Angela Lee, Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Gwent Sam Lewis, Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Gwent Nigel Stannard, Cyngor Dinas Casnewydd Elke Winton, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Huw Vaughan Thomas - Archwilydd Cyffredinol Cymru Matthew Mortlock |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Meriel Singleton (Ail Glerc) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Lee Waters AC. Nid oedd neb yn dirprwyo ar ei ran.
2.1 Nodwyd y papurau.
2.2 O ran heriau digidoleiddio, roedd yr Aelodau'n cytuno y dylai’r Cadeirydd ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau gan amgáu copi o lythyr yr Ysgrifennydd Parhaol gan argymell bod y Pwyllgor yn holi’r Gweinidog ymhellach ynglŷn â’r mater. Cytunodd yr Aelodau hefyd i gynnal sesiwn ragarweiniol yn y flwyddyn newydd gyda Chyfarwyddwr Cyffredinol newydd Llywodraeth Cymru.
3.1 Nododd yr Aelodau y wybodaeth a chytunwyd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn amlygu pryderon ynghylch yr amser a gymerwyd i benodi aelod allanol i fwrdd Holdco gan ofyn am esboniad am yr oedi.
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Naomi Alleyne, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; Elke Winton, Rheolwr Grŵp Tai, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen; a Nigel Stannard, Rheolwr Rhaglen Cefnogi Pobl, Cyngor Dinas Casnewydd (a Chadeirydd y Rhwydwaith Gwybodaeth Cefnogi Pobl) fel rhan o'i ymchwiliad i Raglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru.
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Sam Lewis, Is-gadeirydd Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Gwent ac Angela Lee, Cydlynydd Datblygu Rhanbarthol, Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Gwent fel rhan o'i ymchwiliad i Raglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru.
5.2 Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am ddadansoddiad o'r costau gweinyddol sy'n gysylltiedig â’r Rhaglen Cefnogi Pobl a'r grantiau eraill gan Lywodraeth Cymru sy'n cael eu hystyried ar gyfer y prosiect cyllido hyblyg.
6.1 Derbyniwyd y cynnig.
7.1 Trafododd yr Aelodau’r dystiolaeth a ddaeth i law.
8.1 Nododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer tymor y gwanwyn.